[Cyn Cristnogaeth] [Sant Catwg – Nawdd Sant] [Cristnogaeth Cynnar] [Eglwys Cyn-Ddiwygiad] [Wedi’r Diwygiad] [Y Plwyf Newydd] [Y Gofrester a’r Cofnodion] [Gist y Plwyf] [O gwmpas yr Eglwys]

 

Eglwys St. Catwg's , Gelligaer.

 

HANES FER EGLWYS ST. CATWG'S A PLWYF GELLIGAER

Cliciwch yma am ragor o luniau

 

Cyn Cristnogaeth

Os oeddech yn sefyll ble mae Eglwys Sant Catwg yn sefyll heddi dwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac yn edrych tua’r Gorllewin byddwch wedi gweld milwr Rhufeinig yn patrolio mur uchaf Caer Ymerodraeth Rhufeinig Gelligaer. Yr adeg yma yn hanes, Gelligaer oedd y ffin Gorllewinol o Ymerodraeth Rhufeinig, wnaeth ymestyn yr holl ffordd i Fesopotamia yn Irac. Yn ôl pob sôn gweddillion Caer Cynorthwyol y Rhufeiniaid yng Nghaer Fawr, yw’r esiampl orau o’u math yn Ewrop. Pan adeiladwyd yn gyntaf wnaeth uned filwrol cynorthwyol bach yn cynnwys 120 gwyr meirch a 380 o gwyr traed ei warchod. Adeiladwyd y caer yn 103 O.C a fe oferwyd yn 130 O.C.

Sant Catwg – Nawdd Sant

Yn ôl yr arfer cafodd hen Eglwysi eu cyflwyno mewn cof i’w sylfaenwr ond y mae Eglwys y Plwyf yma yn unigryw oherwydd mae’r Eglwys yma wedi ei enwi ar ôl Sant a chafodd ei eni a wedi gwario ei flynyddoedd gynnar yn y plwyf. Sant Catwg (500 O.C – 570 O.C) oedd y mab hynaf i Gwynlliw a Gwladys, a oedd yn rheolwr o darn mawr o dir wedi’i canoli yng Ngelligaer ond ar ôl iddynt gwahanu fe symudodd Gwynlliw i fyw yng Nghasnewydd ar y tir sydd nawr yn Eglwys Gadeiriol Sant Woolos a wnaeth Gwladys symud i dir capel ger Gelligaer a oedd am gael ei henwi ar ei hôl.

Wnaeth Catwg cefnu ar rheolaeth rhanbarthol ei dad oherwydd roedd well ganddo bywyd o ddysgu a chrefydd, gorffenodd ei addysg yng Nghaerwent pan oedd yn 18 mlwydd oed a wedyni sefydlodd e canolfan enwog yng Nhancarafan ym Mro Morgannwg. Fe ddaeth myfyrwyr draw o Iwerddon a’r cyfandir i’r canolfan, a pharhaodd enw da ei fynachdy am ddysgu, tan amser y Normaniaid.

Mae’n cael ei ystyried fel un o’r rhai a wnaeth sefydlu Cristnogaeth Cymru a wnaeth ei ddysgeidiaeth gwasgaru i wledydd yng Ngorllewin Ewrop.

Wnaeth ef a’i ddilynwyr sefydlu 25 mannau addoli yn Ne Cymru, sefydlwyd ar y priffyrdd Rhufeinig a ddefnyddiwyd ar eu pererindodau. Pellach ymlaen sefydlwyd Sant Catwg mynachdy ar yr afon Liffey yn Iwerddon, capel yn Amlwch ar Ynys Môn ac yng Nghumberslang ar Glyde yn yr Alban, mae yna capel arall sydd hefyd er coffa iddo fe. Mae hefyd tystiolaeth o’i ddylanwad yng Nghernyw yn y De, lle mae pentref a Eglwys wedi eu henwi ar ei ôl.

Yn 546 O.C wnaeth pla distrywgar achosi Catwg a nifer eraill i hwylio i Lydaw lle sefydlwyd ty gweddi a adnabyddwyd heddi fel “Ille de Cado”. Yn y capel presennol ar yr ynys o’i dy gweddi mae yna cofeb i ‘Fab Brenin Morgannwg’ ac yn agos i hyn mae llun o’r Eglwys plwyf Gelligaer.
Ar ôl nifer o flynyddoedd yn Llydaw, wnaeth Sant Catwg dychwelyd adref i ddioddef merthyrdod o oresgrynwyr Saeson. Mae haneswyr wedi methu cytuno ar leoliad ei farwolaeth ond y mae’n mwy na thebyg bu farw ef yng Ngelligaer, oherwydd y mae grwp o gaeau yno efo carreg wedi ei enwi Maen Catwg.

Cristnogaeth Cynnar

Yn ôl awdur cynnar daeth ymsefydlwyr Cristnogaeth draw i lefydd unig ym Mhrydain a fe sefydlwyd eu capeli erbyn 200 O.C, ac o fewn can mlynedd fe ennillwyd digon o nerth i haeddu erledigaeth gan yr awdurdod Rhufeinig, fel y ddangoswyd gan ferthyrdod Aaron a Julius o Gaerleon yn 300 O.C. Gwelwyd nerth yr Eglwys Geltaidd hefyd ym mhresenoldeb tri esgob Prydeinig ar gyngor Arles yn Ne Ffrainc yn 314 O.C ac mae’r amgylchiadau yma yn profi fod yr eglwys yn llwyddo yn Ne-Dwyrain Cymru, lle mae Gelligaer.

Yn ogystal a weddillion Capel Gwladys, lle roedd y Sant yn byw o dua 530 O.C, ffeindiwyd nifer o gerrig coffa sydd yn dyddio nôl i’r 7fed a’r 9fed ganrif hefyd, ac mae carreg o’r degfed ganrif o Gapel Gwladys wedi ei chadw o fewn yr Eglwys Plwyf. Mae hyn i gyd yn darparu tystiolaeth ar barhad o weithgareddau Cristnogaeth yn y cymdogaeth o ddyddiau Sant y Plwyf.

Mae tystiolaeth ysgrifenedig or amseroedd cynnar yma yn prin, ac y mae’r unig ysgrifen sydd yn adlewyrchu’r symudiaeth Cristnogaeth yng Ngelligaer yn amser cyn y Normaniaid i’w weld yn llyfr Taliesin wedi ei priodoli i weinidog o Gelligaer, a wnaeth yn 930 O.C ysgrifennu mewn trallod “Gelligaer a fy Nuw yw fy nghysur”.

Er i’r esgob hawlio wnaeth yr eglwys lleol parhau i gael ei gweinyddu gan weinidogion Celtaidd, ond wnaeth dylanwad yr Eglwys Pabyddol dechrau dod i’r amlwg cyn ddiwedd y deuddegfed ganrif. Yn 1170 O.C wnaeth Griffith ap Ifor Bach, perchennog lleol, cyflwyno y degwm gwerthfawr i fynachdy Margam er mwyn sefydlu mynachdy arall, ond ni chlywodd unrhywbeth wedyn.

Pan wnaeth yr Anglo-Normaniaid a’i weindigion Lladin dominyddu’r ardal welwyd diwedd i’r Eglwys Geltaidd a oedd wedi llwyddo am dros 800 mlynedd.

Eglwys Cyn-Ddiwygiad

Cofiwyd y Normaniaid am fod yn adeiladwyr brwdfrydig o eglwysi crand fel y rhai a welwyd mewn nifer o Egwlysi Cadeiriol Saesneg, fe adeiladwyd yr Eglwys Plwyf unwaith iddyn nhw ennill y gor-arglwyddiaeth oddi wrth y rheolwyr lleol yn 1266. Nid oes cofnod yn dweud pwy oedd eu offeiriad cyntaf ac yr unig offeiriad cyn–ddiwygiad a cafodd ei ffeindio (ar gofrestr Caer Wysg) oedd Henry de Staunton. Dwedodd ar y nodyn ‘Henry de Staunton. He held the R. of Kithligare de Patronate Domini Edwardi Le Depenser’.

Mae cyfrifon bydol yn cyfeirio at ddylanwad parhaol yr eglwys yn y cyfnod rhwng cyrhaeddiad yr offeiriad cyntaf yn 1266 ac apwyntiad De Staunton cant mlynedd yn diweddarach. Am y lles ar archwiliad corf marw Llewellyn Bren, rheolwr brodorol efo’i bas yn castell y pentref, a gafodd ei ladd yng Nghaerdydd yn 1317, wedi parhau efo rhestr o lawlyfrau Lladin a llyfr swyddfa yr Eglwys.

Nid oes llawer o wybodaeth i gael am y 300 mlynedd pan mynegwyd pobl y plwyf yr Eglwys cyn-ddiwygiad oherwydd cafodd y nodiadau eu chwalu. Ond yn nodiadau Caerdydd mae yna nodyn sydd yn ddiddorol iawn. Mae’r nodyn yn ddweud roedd Jasper Tudor ewythr i Harri VII ac Arglwydd Morgannwg wedi dangos ei werthfawrogiad o’r cymorth yn blynyddoedd olaf y 15fed ganrif gan adeiladu twr ar Eglwys Gadeiriol Llandaf a gan roi clychau i Gelligaer a saith eglwys plwyf arall. Wnaeth Gelligaer hefyd dderbyn organ a gafodd ei ddinistrio yn ystod holl cyffro y diwygiad. Wnaeth y clychau aros yn y twr hyd at eu symudiad yn 1650.

Wedi’r Diwygiad

Roedd y diwygiad yn cyd-fynd gyda gloddest o gaffaeliad o nwyddau’r eglwys ac y dirywiad o’i pherchenogaethau, ac o flaen Gomisiwn yng Nghaerdydd yn 1553 rhoddodd warden yr Eglwys o Gelligaer tystiolaeth o bethau gwerthfawr a chafodd eu cymrud o’u eglwys. Fe ddwedwyd am ddilledyn coch melfed a chwpan cymun arian.

Profwyd bach o gymhlethdod trwy drio newid o’r ffydd Gatholig i’r Diwygiad, wnaeth rhan fwyaf o’r pobl ei dderbyn efo difaterwch. Er hynny wnaeth rhai pabyddion gwrthod newid am nifer o flynyddoedd. Yn 1622 cafodd nifer o bobl o Gelligaer eu cymryd i’r llys am wrthod i fynychu’r gwasanaethau yn yr Eglwys Diwygiedig ac yn 1786 cafodd David Jones ei gladdu a oedd yn pabydd proffesiynol yn 92 mlwydd oed.

Mae cofnodion y rheithor o’r plwyf yn ystod yr amser wedi’r Diwygiad yn eitha sylweddol, sy’n annhebyg i’r rhai o gyfnod y cyn ddiwygiad. Maent yn dweud stori am ffafrio perthnasau a phlwyf neu ddaliad ychwanegol yn ei apwyntiad, yn dilyn absenoldeb aml yr offeiriad a diffyg arweinyddiaeth ysbrydol hyd at y 19eg ganrif.

Roedd y degwm a oedd yn cysylltiedig i fywoliaeth Gelligaer, y rhai mwyaf cyfoethog yn yr Esgobaeth, swydd segr a oedd yn aml yn cael ei rhoi i’r pobl ffafriol a oedd yn becso dim am les ysbrydol y plwyfolion a wnaeth braidd cymysgu â nhw. Yr olaf o’r ‘absenolwr’ oedd Thomas Stacey a oedd yn Rheithor o 1827 i 1861, ond roedd well ganddo fe i wario ei 30 mlynedd olaf yn Llandaf lle roedd e’n gyflwynydd.

Roedd Robert Covey, Rheithor adeg yr ymgodi yn yr Eglwys Piwritanaidd yng nghanol y 1660au, wedi ei ddiarddel am wrthod i dderbyn newid i’r athrawiaeth. Cafodd ei gymryd dros gan offeiriad lleol a oedd yn Babydd a wnaeth cytuno i dderbyn yr offrwm rhydd yn lle y ddegwm atyniadol. Beth bynnag, roedd y casgliadau yn llai na beth oedd y degwm wedi rhoi a cyn hir fe ddechreuodd pregethu am y degwm a wnaeth tramgwyddo ochr Duwiol y plwyf….Fe ddiswyddodd ef er mwyn hybu’r ffydd yn llefydd eraill, a rhoddwyd ef £160. Er mwyn achub yr arian fe gwerthodd y pobl y clychau, a rhoddwyd gan Jasper Tudor i’r plwyf rhyw 170 mlynedd yn gynharach.

Nid oedd offeiriad parhaol am ddeng mlynedd diweddarach tan yr Adfeiriad yn 1660, ac yn 1662 cafodd Robert Thomas ei apwyntio. Yn dilyn y diofalwch o’r blynyddoedd a ddilynodd, roedd gan yr offeiriad newydd y dasg o adnewyddu arferion y degwm (heb hyn ni fydd incwm) a gwella defnydd yr Eglwys. Mae cyfrifon warden yr Eglwys o 1688 yn dangos bod llawer o arian wedi gwario ar gorff yr Eglwys ar twr, gan gynnwys eitem o 1s 0d am bwlis am raff y gloch, yn awgrymu bod gloch sengl yna i ailosod yr un goll.

Ymhlith plwyfolion Robert Thomas roedd Edward Lewis, perchennog tir ifanc lleol o Gilfach Fargoed Fawr a wnaeth farw fel yr offeiriad yn 1728. Roedd Edward Lewis yn pryderu dros yr anwybodaeth a’r tlodi a ddigwyddodd yn gynharach, felly fe adawodd ef llawer o’i arian i elusennau lleol gan gynnwys y sylfaen i Eglwys Lewis.

O ganlyniad i flynyddoedd o ddiofalwch gan reithorau absennol cafodd offeiriad newydd yn 1862 ei apwyntio a fe eitfeddodd eglwys a oedd mewn angen mawr o gywiro. Ar ôl i’r tô cwympo ym Medi 1866, aeth Canon Gilbert Harries ati i wella y cywiriadau ac i orffen y gwaith, a ddathlwyd ail agoriad yr Eglwys cyn Nadolig efo pryd o fwyd i’r gweithwyr ar côr yn nhafarn y pentref.

Mae’r cysegr ar cangell a chafodd eu adnewyddu yn cyflwyno llun o bobl adeg Fictoria o fewn cragen Normanaidd, roedd y mwyafrif o bethau a gafodd eu sefydlu yn cyfoesol a amser Canon Harries. Ar ôl cwymp yr Eglwys mae’r cofnodion yn dangos pa fath o adeilad oedd yn bodoli o flaen. Daeth y pren o ystad Llanuwas Canon Harries yn Sir Benfro. Cafodd y fffenestri mawr ar ochr y De eu rhoi mewn yn yr 20fed ganrif – roedd y ffenestri gwreiddiol yn bach a mae un ohonyn nhw i weld yn y ‘Lady Chapel’ lle gafodd e ei symud ermwyn roi golau i hen festri y glerigaeth.

Nid oes llawer o gerrig coffa o’r 18fed ganrif yn y fynwent oherwydd cyn hynny cafodd pobl y plwyf eu claddu yn yr Eglwys, mae eu mannau gorffwys yn cael eu cofnodi ar blatiau efudd. Mae eu cerrig coffa yn corff yr Eglwys yn gorwedd o dan y seddi. Yn ôl rhestr o gostau claddu a chafodd ei ysgrifennu yn 1699, fe gostiodd hi 8d i gael ei claddu yn y cangell a 4d a 3d i gael eu claddu yng nghorff yr Eglwys.

Y Plwyf Newydd

Yn hwyr yn y 19eg ganrif roedd y plwyf eglwysig yn gwasgaru dros rhan fwyaf o Ogledd Dwyrain Morgannwg, ardal a wnaeth gwasgaru’n Oogeddol o Ystrad Mynach i ymylon Brecnockshire, ac yr unig llefydd Anglicanaidd o addoli oedd eglwys y Plwyf a’r Capel Cartrefol yn Nghefn Brithdir. Dechreuodd datblygiadau diwydiannol creu angen am wasanaeth ysbrydol ac addysgol i dwf y poblogaeth a oedd yn byw yn y pentrefi a oedd yn rhy bell o’r eglwysi. Dechreuwyd adeiladu eglwysi newydd a ddefnyddiwyd fel ysgolion dyddiol ym Mhontlotyn, Pontywaun, Troedyrhiwfuwch a Deri. Ar ôl 1870, pan ddaeth addysg yn cyfrifoldeb y Gwladwriaeth, agorwyd eglwysi a chenhedaethau yn gweddill pentrefi y plwyf.

Cyrhaeddodd offeiriad Lladin y 13eg ganrif ermwyn edrych ar ôl yr angen ysbrydol nifer bach o bobl a oedd yn byw yn cymunedau neilltuol mewn plwyf a oedd yn gwasgaru dros 16 mil erw a bron 600 mlynedd yn ddiweddarach, roedd nifer y pobl ond yn 825. Roedd 15 gwaith mwy o aelodau erbyn y 19eg ganrif o ganlyniad i’r weithred o ddwysau diwydiant lleol, wnaeth hyn creu yr angen gweinyddol i rannu’r hen blwyf mewn i unedau llai, daeth nifer o’r eglwysi i fod yn eglwysi plwyf.
Dechreuodd Canon Jesse Jones cenhadaeth yn Nhy Gwerthonor, Gilfach yn 1895 ac erbyn 1903 fe ddechreuwyd apêl am godi eglwys sef nawr Santes Marged sydd nawr yn neuadd yr Eglwys. Cyn iddo farw yn 1930, fe baratodd cynlluniau am eglwys newydd yng Ngilfach, a orffenwyd gan Canon J O Williams yn 1933. Wedyn fe ddechreuwyd ysgol pentrefol yng Nghefn Hengoed yn fuan ar ôl ei gyrhaeddiad yn y pentref.

Yn dal i fod o dan gofal yr hen eglwys mamol y mae ardal o 4000 erw, sef chwarter o’r plwyf gwreiddiol, ond y mae’r poblogaeth sef bron 14 000 yn mwy na’r holl plwyf pan grëwyd y rhaniad canrif yn gynharach.

Y Gofrester a’r Cofnodion

Mae’r cofrestr, sydd yn cael ei gadw yn archif Sir Forgannwg, ddim yn hen iawn, y dyddiad cynharaf i’w 1701. Mae yna rhai llyfrau diddorol o gyfrifon, a nodwedd ymhlith rhain oedd ysgrifen plât argraffu o Henry Williams a oedd yn athro 19eg ganrif yn ysgol elusennol a clerc plwyf Gelligaer a Llanfabon, sydd yn gorwedd yng Ngogledd corff yr eglwys. Y cofnodion hynaf sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yw llaw ysgrifau ar y Defod Plwyf gan y rheithor Robert Thomas, yn dechrau yn 1676.

.

Gist y Plwyf

Yn 1538 wnaeth Harri VII gorchmynnu i bob bedydd, priodas ag angladd cael eu cadw yn un gist efo dau clo a ddau allwedd. Wnaeth Edward VI ail adrodd ei orchymyn yn 1548 ac hefyd Elisabeth yn 1559. Yn 1603, penderfynodd James I dyle’r holl gofnodion cael eu cadw yn un llyfr memrwm a’i chloi mewn cist efo tair clo ac allwedd. Rhanwyd yr allweddi rhwng yr offeiriad a warden yr elgwys, a wnaeth nifer o cloeon sicrhau gael un berson agor y gist ym mhresenoldeb y ddau arall. Cafwyd cyfrifoldeb gist Gelligaer efo 3 clo ac allwedd ei basio draw i’r Cyngor Dosbarth yn 1895 a fe gollwyd. Yn y cist ar y pryd oedd memrwm y degwm ar cynllun, sydd nawr yn archifau y cyngor.

O gwmpas yr Eglwys

Cofebion Cysegr

Brithwaith ‘reredos’ yn coffa Eleanor Harries m. 1971.

Dewl pres o’r Canon G. C. F. Harries m. 1879.

Bedyddfaen efo platiau copr du o’r 17eg ganrif mewn cof am Syr William Lewis o Gilfach Fargoed.

Uwch ben y bedyddfaen roedd llechen mewn cof am Edward Lewis, sylfaenwr yr ysgol ac elusennau lleol.

Paneli derwen mewn cof am y plwyfolion a wnaeth farw yn y Rhyfel 1939 – 1945.

Mae nodyn o’r organ 15fed ganrif wedi cael ei rhoi yn yr hanes. Cafwyd yr harmoniwm ei ail osod gan offeryn sengl maniwal yr 19eg ganrif. Cafwyd yr organ presennol ei osod yn 1935.


Newidion bychan

Yng nghorff yr eglwys ar y ddau ochr o’r arch Normanaidd fe welwyd bedyddfaen, sydd yn crair o’r gyfnod y Cyn-Ddiwygiad. Ar ochr cangell yr arch oedd y mynediad i sgrin yr heol sydd wedi hen ddiflannu.


Y Bedyddfaen

Yn agos i ddrws y dde ym mae’r bedyddfaen, a gafodd ei atgyweirio yn 1866. Yn unigryw ymhlith eglwysi Cymraeg, y mae’n crair o’r Eglwysi y Gymanwlad o’r 17eg ganrif. Ar yr ochr Dwyreiniol o ddrws y dde y mae Cawg Dwfr Swyn sydd yn crair o’r cyfnod Catholig.


Cyffion y Plwyf

Wedi ei cyflwyno gan Edward III yn 1376, wnaeth y cyffion, ar gael ar y wal Ogleddol o gorff yr eglwys unwaith yn sefyll ar bwys y mynedfa i’r mynwent. Cafwyd troseddwyr eu cymryd i’r Plygain i gyffesu eu troseddau a wedyn fe gafwyd eu gosod yn y cyffion am weddill y ddiwrnod.


Croes Celtaidd

Y mae’r carreg sydd ar gael yng nghefn corff yr eglwys a oedd efo croes Celtaidd wedi ei arysgrifennu, wedi ei ffeindio ar dir Capel Gwladys yn 1906. Y mae’r fath o arysgrifen sydd i weld ar y groes yn dyddio nôl i’r 10fed ganrif.


Y Gloch

Fel yr ydym yn gwybod cafodd clychau y 15fed ganrif eu dilyn gan gloch sengl yn 1688, fel y ddangosir gan gyfrifon plwyf y cyfnod. Mae tynged y gloch yn anhysbys hyd heddiw. Mae’r cloch presennol wedi ei gosod ers 1760 ac arni wedi ei cerfio yw:

E D POWELL & LEWIS EDWARDS CHURCH W DNS 1760.

[Cyn Cristnogaeth] [Sant Catwg – Nawdd Sant] [Cristnogaeth Cynnar] [Eglwys Cyn-Ddiwygiad] [Wedi’r Diwygiad] [Y Plwyf Newydd] [Y Gofrester a’r Cofnodion] [Gist y Plwyf] [O gwmpas yr Eglwys]

[Safeguarding Policy][Disclaimer] [Home Page]